Beth mae’n ei olygu i fod yn ddysgwr yn Academi Seren?

Mae bod yn ddysgwr Seren yn golygu dy fod yn ddysgwr sy’n fedrus ac yn ymrwymedig i gyrraedd dy lawn botensial ar gyfer dy addysg a dy yrfa yn y dyfodol, gan gynnal safonau uchel o ymrwymiad i’r rhaglen ac i dy lwybr mewn addysg. Fel dysgwr Seren rwyt yn ymrwymo i: 

  • Fynychu’r digwyddiadau yr wyt yn cofrestru ar eu cyfer
  • Fod yn lysgennad da ar gyfer dy ysgol neu goleg a rhaglen Seren yn ystod dy amser yn y rhaglen a thu hwnt 
  • Arddangos diwydrwydd a gwaith caled yn dy astudiaethau a gweithgareddau gor-gyrsiol
  • Fynegi chwilfrydedd deallusol ac angerdd tuag at dy weithgareddau academaidd 

Beth all Academi Seren ei gynnig i ti?

Drwy gymryd rhan yn rhaglen Seren byddi’n cael mynediad i ystod eang o gyfleoedd a fydd yn dy gefnogi i gyrraedd dy lawn botensial. Mae’r cyfleoedd hyn yn cynnwys: 

  • Mynediad i gyrsiau preswyl sydd wedi eu hariannu’n llawn ac sydd ar gael ar gyfer dysgwyr Seren yn unig
  • Gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar ymgeisio i brifysgolion blaenllaw yng Nghymru, y DU a thramor
  • Cyfleoedd i gymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr academaidd, projectau ymchwil a chystadlaethau academaidd
  • Mentora i dy helpu i gael lle ar gwrs ac ym mhrifysgol dy freuddwydion 
  • Cyflwyniadau ar lwybrau addysg uwch nad wyt efallai wedi eu hystyried o’r blaen 

Sut alli di elwa fwyaf o fod yn ddysgwr Seren?

Mae nifer o ffyrdd i ti wneud y mwyaf o dy botensial drwy gymryd rhan yn rhaglen Academi Seren. Mae’r gwerth a gei allan o Seren yn dibynnu ar dy ymroddiad di, felly gwna’n siŵr dy fod yn cymryd mantais o bopeth sydd ar gael i ti fel y galli ddatblygu cymaint â sy’n bosib o dy brofiad yn rhaglen Seren.

Manteisia ar Academi Seren drwy:

  • Gofrestru ar Gofod Seren a chadw llygad ar y digwyddiadau a chyfleoedd diweddaraf y galli gymryd rhan ynddynt 
  • Wirio dy ebost yn gyson am ddiweddariadau gan Academi Seren 
  • Fynychu digwyddiadau yn dy hyb a chadw llygad am wybodaeth gan dy Gydlynydd Hwb 
  • Ymrwymo i fynychu unrhyw ddigwyddiadau yr wyt yn cofrestru ar eu cyfer
  • Ymgeisio ar gyfer y cyrsiau preswyl, cyfleoedd mentora a rhaglenni paratoi prifysgol sy’n cael eu cynnig yn unig gan Academi Seren 
  • Archwilio profiadau newydd hyd yn oed os nad wyt wedi eu hystyried o’r blaen – gallant dy helpu i wneud penderfyniadau gwybodus am dy ddyfodol 
  • Gadw mewn cyswllt gyda Seren drwy Gofod Seren unwaith yr wyt wedi dechrau dy yrfa mewn addysg uwch, gan gadw llygad am gyfleoedd ble galli gefnogi’r rhaglen a’i charfannau o ddysgwyr yn y dyfodol

Sut all bod yn rhan o Academi Seren dy helpu yn y dyfodol? 

Byddi wastad yn rhan o Academi Seren hyd yn oed wedi i ti setlo yn y brifysgol neu ym myd gwaith. Rwyt yn rhan o rwydwaith o feddyliau disglair Cymreig – a bydd y rhwydwaith hon yn dy helpu ar dy lwybr drwy gydol dy oes drwy: 

  • Gynyddu dy ragolygon addysg uwch
  • Dy alluogi i wneud cysylltiadau gyda phobl debyg i ti y galli eu cwrdd yn y brifysgol
  • Agor dy lygaid i gyfleoedd gyrfa rhagorol 
  • Rhoi’r cyfle i ti i ysbrydoli a rhoi’n ôl i ddysgwyr ifanc yng Nghymru 

Sut ddylet ti ddefnyddio Gofod Seren?

I sicrhau bod Gofod Seren yn ofod defnyddiol, croesawgar a chynhyrchiol i holl ddysgwyr, athrawon ac arweinwyr hyb Academi Seren, dylet ystyried y canllaw canlynol yn ofalus. Wrth gytuno i’r côd ymddygiad hwn rwyt yn deall y dylet, fel defnyddiwr Gofod Seren: 

  • Roi gwybodaeth gywir amdanat dy hun a pheidio â rhoi gwybodaeth anwir i Academi Seren
  • Roi manylion cywir am dy ysgol, dy flwyddyn ysgol a’th hyb 
  • Gytuno y gall Seren newid enw dy hyb ar Gofod Seren heb dy hysbysu os nad yw dy ysgol yn ymddangos ei fod wedi ei baru gyda’r hyb cywir 
  • Beidio ag uwchlwytho llun proffil
  • Beidio â defnyddio unrhyw iaith anaddas mewn unrhyw gyfathrebiadau
  • Beidio â dynwared unrhyw unigolion eraill ar y platfform 
  • Beidio â rhannu mynediad i gyfleoedd Academi Seren gydag unigolion sydd ddim yn rhan o’r rhaglen

Pa ymddygiad sydd yn ddisgwyliedig ohonot yn ystod rhaglen Academi Seren?

Pan rwyt yn cymryd rhan mewn unrhyw un o weithgareddau Academi Seren ar Gofod Seren, mewn digwyddiad rhithwir neu wyneb-yn-wyneb, mae disgwyl i ti: 

  • Fod yn barchus tuag at pob dysgwr, arweinydd hyb ac aelod o staff Academi Seren
  • Gynnal ymddygiad ac awyrgylch sydd yn galluogi i bob dysgwr wneud y mwyaf o unrhyw weithgaredd o fewn y rhaglen 
  • Gwblhau unrhyw geisiadau neu dasgau a osodir o fewn y dyddiad cau
  • Adrodd am unrhyw fwlio, pryderon diogelu neu gamymddwyn i aelodau o staff Academi Seren.