Os ydych chi’n cofrestru ar y porth bydd angen inni brosesu gwybodaeth bersonol benodol amdanoch er mwyn gwneud y cofrestriad angenrheidiol, a sicrhau eich bod yn gallu cael eich adnabod fel dysgwyr Academi Seren i gael mynediad i’r porth. Ar ben hynny, gallwn nodi defnyddwyr eraill fel partïon allweddol i’w hysbysu am weithgareddau Academi Seren. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn egluro sut y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth bersonol a gasglwn amdanoch os ydych chi’n cofrestru fel:

  • Dysgwr Academi
  • Aelod Graddedig Seren
  • Cydlynydd Hwb
  • Athro/athrawes
  • Rhiant/ gofalwr

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer yr wybodaeth hon. Byddwn yn prosesu’r wybodaeth yn unol â’n tasg gyhoeddus a’r awdurdod swyddogol a roddwyd inni i’ch galluogi i gofrestru ar borth Academi Seren a chael mynediad at yr hyn y mae’n cynnig. Os data categori arbennig (e.e. ethnigrwydd, anabledd, ac ati) yw’r wybodaeth, byddwn yn ei phrosesu er budd sylweddol y cyhoedd i sicrhau cyfle cyfartal a thriniaeth gyfartal.

Cazbah Ltd fydd prosesydd y data ar gyfer yr wybodaeth hon, Cazbah yw’r contractiwr rheoli digwyddiadau a benodir gan Lywodraeth Cymru sy’n darparu gweithgareddau addysgol ar ran tîm Academi Seren.

Hefyd, yn ystod y flwyddyn academaidd, gan ddefnyddio data dysgwyr, mae’n bosibl y byddwn yn cyhoeddi ffurflenni gwerthuso i fesur effaith rhaglen Seren. Gallai’r data personol a gesglir wrth gofrestru gael eu  defnyddio’n ddienw i fesur effaith y rhaglen ar grwpiau dethol o ddysgwyr.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data personol?

Byddwn yn cadw data dysgwyr yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru am o leiaf 12 mlynedd o ddiwedd y cyfnod cyllido presennol yn 2025. Os nad ydych mwyach yn dymuno bod yn rhan o raglen Academi Seren na’r grŵp o Aelodau Graddedig Seren, gallwch gysylltu â Thîm Seren er mwyn i’ch data gael eu dileu.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych hawl:

  • i wybod am y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cadw amdanoch chi a’u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
  • (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth a gedwir gan Lywodraeth Cymru ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Tîm Seren Llywodraeth Cymru

E-bost: seren@llyw.cymru

Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru

Parc Cathays

Caerdydd

CF10 3NQ

E-bost: dataprotectionofficer@llyw.cymru

Er mwyn cysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, gweler y manylion isod:

Wycliffe House

Water Lane

Wilmslow

Swydd Gaer

SK9 5AF

029 2067 8400 (llinell gymorth Cymru) neu 0303 123 1113 (llinell gymorth y DU)

Gwefan: https://ico.org.uk/