Menter gan Lywodraeth Cymru yw Academi Seren sydd â’r nod o helpu dysgwyr mwyaf medrus Cymru sydd wedi eu haddysgu mewn ysgolion gwladol i gyflawni eu llawn botensial academaidd a chefnogi eu llwybr addysgol i brifysgolion blaenllaw yn y DU a thramor.

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i Gofod Seren sef gwefan sy’n cael ei rhedeg gan Equal Education Partners ar ran Llywodraeth Cymru. Rydym am i gynifer o ddysgwyr â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dyllech allu:

  • newid lliwiau, lefelau disgleirdeb a ffontiau gan ddefnyddio offerynnau trydydd parti
  • chwyddo mewn hyd at 300% heb i’r testun adael y sgrin
  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau mwyaf diweddar o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall. Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon?

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • mae’n bosibl ei bod yn anodd gwe-lywio rhai o’n ffurflenni ar-lein gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • nid yw rhai o’r dogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i raglenni darllen sgrin

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch oddi ar y wefan mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, testun hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille:

E-bost: seren@equaleducationpartners.com 

Ffôn: 02920 697129

Fe ystyriwn eich cais ac anfon ateb o fewn 7 diwrnod.

Adrodd am broblemau hygyrchedd ar y wefan hon

Rydym bob amser yn awyddus i wella hygyrchedd y wefan hon. Os dewch ar draws unrhyw broblemau nad ydynt wedi eu rhestru neu os ydych o’r farn nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion canlynol:

E-bost:  seren@equaleducationpartners.com

Ffôn: 02920 697129

Gweithdrefn orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i’ch cwyn cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS)

Cysylltu â ni ar y ffôn neu ymweld â ni

Darganfod sut i gysylltu â ni

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae’r ymgynghoriaeth Equal Education Partners, ar ran Llywodraeth Cymru, wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â Safon AA fersiwn 2.1 o Ganllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, oherwydd:

  • disgrifiadau amgen ar gyfer delweddau
  • mae’n bosibl nad oes gan nifer bach o fotymau gynnwys testun gweladwy

Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Does dim testun amgen gan nifer bach o ddelweddau, felly ni all pobl sy’n defnyddio rhaglen darllen sgrin gael mynediad at yr wybodaeth. Nid yw hyn yn cydymffurfio â maen prawf 1.1.1. Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.1 (cynnwys nad yw’n destun).

Mae testun amgen ar gyfer y rhan fwyaf o’r delweddau, ac rydym yn anelu i sicrhau testun amgen ar gyfer pob un erbyn mis Medi 2023.

Gwe-lywio a chael gafael ar wybodaeth

Nid yw bob amser yn bosibl newid gogwydd y ddyfais o lorweddol i fertigol heb ei gwneud yn anos gweld y cynnwys.

Gweithrediadau ac offerynnau rhyngweithiol

Mae’n anodd gwe-lywio rhai o’n ffurflenni rhyngweithiol gan ddefnyddio bysellfwrdd.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Dogfennau PDF a dogfennau eraill

Mae rhai o’n dogfennau PDF yn hanfodol o ran darparu ein gwasanaethau a’n hadnoddau i ddysgwyr. Er enghraifft mae gennym ddogfennau PDF gyda gwybodaeth ar sut gall defnyddwyr gael mynediad at wasanaeth a rhaglenni y tu allan i Gofod Seren. Rydym yn bwriadu datrys y problemau hyn i gyd erbyn mis Medi 2023.

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol inni drwsio dogfennau PDF na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Nid oes dogfennau o’r fath ar y wefan hon.

Bydd unrhyw ddogfennau PDF newydd y byddwn yn eu cyhoeddi yn bodloni safonau hygyrchedd.

Beth ydym ni’n ei wneud i wella hygyrchedd?

Yn dilyn lansiad cychwynnol y wefan hon ar 21 Medi 2022, byddwn yn profi hygyrchedd ymhellach ac yn diweddaru’r datganiad hwn.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 20 Rhagfyr 2022. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 09 Ionawr 2023.

Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 21 Medi 2022