Telerau ac Amodau Academi Seren
Beth mae’n ei olygu i fod yn ddysgwr yn Academi Seren?
Mae bod yn ddysgwr Seren yn golygu dy fod yn ddysgwr sy’n fedrus ac yn ymrwymedig i gyrraedd dy lawn botensial ar gyfer dy addysg a dy yrfa yn y dyfodol, gan gynnal safonau uchel o ymrwymiad i’r rhaglen ac i dy lwybr mewn addysg. Fel dysgwr Seren rwyt yn ymrwymo i:
- Fynychu’r digwyddiadau yr wyt yn cofrestru ar eu cyfer
- Fod yn lysgennad da ar gyfer dy ysgol neu goleg a rhaglen Seren yn ystod dy amser yn y rhaglen a thu hwnt
- Arddangos diwydrwydd a gwaith caled yn dy astudiaethau a gweithgareddau gor-gyrsiol
- Fynegi chwilfrydedd deallusol ac angerdd tuag at dy weithgareddau academaidd
Beth all Academi Seren ei gynnig i ti?
Drwy gymryd rhan yn rhaglen Seren byddi’n cael mynediad i ystod eang o gyfleoedd a fydd yn dy gefnogi i gyrraedd dy lawn botensial. Mae’r cyfleoedd hyn yn cynnwys:
- Mynediad i gyrsiau preswyl sydd wedi eu hariannu’n llawn ac sydd ar gael ar gyfer dysgwyr Seren yn unig
- Gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar ymgeisio i brifysgolion blaenllaw yng Nghymru, y DU a thramor
- Cyfleoedd i gymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr academaidd, projectau ymchwil a chystadlaethau academaidd
- Mentora i dy helpu i gael lle ar gwrs ac ym mhrifysgol dy freuddwydion
- Cyflwyniadau ar lwybrau addysg uwch nad wyt efallai wedi eu hystyried o’r blaen
Sut alli di elwa fwyaf o fod yn ddysgwr Seren?
Mae nifer o ffyrdd i ti wneud y mwyaf o dy botensial drwy gymryd rhan yn rhaglen Academi Seren. Mae’r gwerth a gei allan o Seren yn dibynnu ar dy ymroddiad di, felly gwna’n siŵr dy fod yn cymryd mantais o bopeth sydd ar gael i ti fel y galli ddatblygu cymaint â sy’n bosib o dy brofiad yn rhaglen Seren.
Manteisia ar Academi Seren drwy:
- Gofrestru ar Gofod Seren a chadw llygad ar y digwyddiadau a chyfleoedd diweddaraf y galli gymryd rhan ynddynt
- Wirio dy ebost yn gyson am ddiweddariadau gan Academi Seren
- Fynychu digwyddiadau yn dy hyb a chadw llygad am wybodaeth gan dy Gydlynydd Hwb
- Ymrwymo i fynychu unrhyw ddigwyddiadau yr wyt yn cofrestru ar eu cyfer
- Ymgeisio ar gyfer y cyrsiau preswyl, cyfleoedd mentora a rhaglenni paratoi prifysgol sy’n cael eu cynnig yn unig gan Academi Seren
- Archwilio profiadau newydd hyd yn oed os nad wyt wedi eu hystyried o’r blaen – gallant dy helpu i wneud penderfyniadau gwybodus am dy ddyfodol
- Gadw mewn cyswllt gyda Seren drwy Gofod Seren unwaith yr wyt wedi dechrau dy yrfa mewn addysg uwch, gan gadw llygad am gyfleoedd ble galli gefnogi’r rhaglen a’i charfannau o ddysgwyr yn y dyfodol
Sut all bod yn rhan o Academi Seren dy helpu yn y dyfodol?
Byddi wastad yn rhan o Academi Seren hyd yn oed wedi i ti setlo yn y brifysgol neu ym myd gwaith. Rwyt yn rhan o rwydwaith o feddyliau disglair Cymreig – a bydd y rhwydwaith hon yn dy helpu ar dy lwybr drwy gydol dy oes drwy:
- Gynyddu dy ragolygon addysg uwch
- Dy alluogi i wneud cysylltiadau gyda phobl debyg i ti y galli eu cwrdd yn y brifysgol
- Agor dy lygaid i gyfleoedd gyrfa rhagorol
- Rhoi’r cyfle i ti i ysbrydoli a rhoi’n ôl i ddysgwyr ifanc yng Nghymru
Sut ddylet ti ddefnyddio Gofod Seren?
I sicrhau bod Gofod Seren yn ofod defnyddiol, croesawgar a chynhyrchiol i holl ddysgwyr, athrawon ac arweinwyr hyb Academi Seren, dylet ystyried y canllaw canlynol yn ofalus. Wrth gytuno i’r côd ymddygiad hwn rwyt yn deall y dylet, fel defnyddiwr Gofod Seren:
- Roi gwybodaeth gywir amdanat dy hun a pheidio â rhoi gwybodaeth anwir i Academi Seren
- Roi manylion cywir am dy ysgol, dy flwyddyn ysgol a’th hyb
- Gytuno y gall Seren newid enw dy hyb ar Gofod Seren heb dy hysbysu os nad yw dy ysgol yn ymddangos ei fod wedi ei baru gyda’r hyb cywir
- Beidio ag uwchlwytho llun proffil
- Beidio â defnyddio unrhyw iaith anaddas mewn unrhyw gyfathrebiadau
- Beidio â dynwared unrhyw unigolion eraill ar y platfform
- Beidio â rhannu mynediad i gyfleoedd Academi Seren gydag unigolion sydd ddim yn rhan o’r rhaglen
Pa ymddygiad sydd yn ddisgwyliedig ohonot yn ystod rhaglen Academi Seren?
Pan rwyt yn cymryd rhan mewn unrhyw un o weithgareddau Academi Seren ar Gofod Seren, mewn digwyddiad rhithwir neu wyneb-yn-wyneb, mae disgwyl i ti:
- Fod yn barchus tuag at pob dysgwr, arweinydd hyb ac aelod o staff Academi Seren
- Gynnal ymddygiad ac awyrgylch sydd yn galluogi i bob dysgwr wneud y mwyaf o unrhyw weithgaredd o fewn y rhaglen
- Gwblhau unrhyw geisiadau neu dasgau a osodir o fewn y dyddiad cau
- Adrodd am unrhyw fwlio, pryderon diogelu neu gamymddwyn i aelodau o staff Academi Seren.