Hysbysiad Preifatrwydd Casgliadau Data Academi Seren
Hysbysiad Preifatrwydd Casgliadau Data
Yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) (‘y ddeddfwriaeth diogelu data’), mae’r hysbysiad hwn yn disgrifio’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud â’r data personol amdanoch y mae’n ei dderbyn fel rhan o Gasgliadau Data Academi Seren.
Bydd y wybodaeth yn yr hysbysiad hwn yn cael ei hadolygu’n gyson i ymgorffori unrhyw newidiadau pellach. Os byddwn yn newid y ffordd yr ydym yn prosesu a/neu’n defnyddio eich data, bydd yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn adlewyrchu’r newidiadau hynny. Bydd y fersiwn ddiwygiedig ar gael ar Gofod Seren.
Cafodd y polisi preifatrwydd hwn ei ddiweddaru ddiwethaf ym mis Gorffennaf 2025.
Y cefndir
Mae Academi Seren yn casglu ac yn prosesu data personol dysgwyr Seren ac aelodau/partneriaid cysylltiedig er mwyn:
- Darparu mynediad at borth cofrestru a gwybodaeth Seren, Gofod Seren
- Monitro ymgysylltiad a chyfranogiad dysgwyr yng ngweithgareddau Seren at ddiben rheoli a gweinyddu’r rhaglen
- Adolygu a gwerthuso ymyriadau a chanlyniadau’r rhaglen
Mae casgliadau data Academi Seren yn cynnwys Data Cofrestru Ar-lein Gofod Seren, Data Parhaus Rheoli a Gweinyddu’r Rhaglen, a Data Gwerthuso.
Gofod Seren yw’r porth cofrestru ar gyfer rhaglen Academi Seren. Os cofrestrwch ar borth Gofod Seren, bydd angen inni brosesu rhywfaint o wybodaeth bersonol amdanoch er mwyn cwblhau’r broses gofrestru ar y platfform. Efallai y bydd angen inni hefyd gasglu data presenoldeb a gwybodaeth o arolygon adborth a chanlyniadau er mwyn hwyluso’r broses o weinyddu gweithgareddau’r rhaglen ac o werthuso Seren yn gyson.
Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn egluro sut y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth bersonol a gasglwn amdanoch, p’un a fyddwch yn cofrestru fel:
- Dysgwr Academi Seren
- Aelod / partner cysylltiedig:
- Un o raddedigion Seren
- Cydlynydd Canolfan neu Arweinydd Gweithredu
- Athro
- Mentor Seren
Llywodraeth Cymru fydd rheolydd y data ar gyfer y wybodaeth hon, a byddwn yn ei phrosesu yn unol â’n tasg gyhoeddus a’r awdurdod swyddogol a roddwyd inni, i’ch galluogi i gofrestru ym mhorth Seren a gweld yr hyn y mae’n ei gynnig. Pan fo’r wybodaeth yn perthyn i gategori arbennig (e.e. ethnigrwydd, anabledd ac ati), byddwn yn ei phrosesu gyda golwg ar y budd sylweddol i’r cyhoedd o sicrhau cyfle a thriniaeth gyfartal.
Cazbah Ltd fydd prosesydd y data hwn ac Equal Education Partners fydd yr is-brosesydd. Cazbah ac Equal Education Partners yw’r contractwr a’r is-gontractwr, yn y drefn honno, a benodwyd gan Lywodraeth Cymru, sy’n cyflwyno gweithgareddau addysgol ar ran tîm Seren. Os byddwch yn ymuno â digwyddiadau, bydd Cazbah ac Equal yn cyflawni eu swyddogaeth fel prosesydd ac is-brosesydd data, a bydd angen iddynt brosesu rhywfaint o wybodaeth bersonol amdanoch er mwyn eich cofrestru a chaniatáu ichi allu cymryd rhan mewn gweithgareddau ar-lein/wyneb yn wyneb ac er mwyn monitro eich cynnydd ar raglen Seren.
Bydd yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn cwmpasu cyfnod y contract.
HYSBYSIAD PREIFATRWYDD
Pa ddata personol sy’n cael ei gadw gennym ac o ble yr ydym yn cael y wybodaeth hon?
Diffinnir data personol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) fel unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn y gellir ei defnyddio i adnabod yr unigolyn hwnnw yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, ar sail elfen benodol.
Mae Academi Seren yn casglu’r wybodaeth hon drwy’r dulliau casglu data canlynol:
- Cofrestru ar borth ar-lein Gofod Seren
- Arolygon presenoldeb ar-lein (Dysgwyr yn unig)
- Arolygon canlyniadau ac adborth ar-lein (Dysgwyr yn unig)
Data Dysgwyr yr Academi:
Mae’r data personol a’r data categorïau arbennig a gesglir am bobl ifanc fel rhan o gasgliadau data Seren yn cynnwys, ymhlith elfennau eraill, y data a restrir isod. Am restr o eitemau data dysgwyr a gesglir fel rhan o gasgliadau data Academi Seren, gweler Atodiad 1.
- Data personol: Enw cyntaf, Cyfenw, Cod post, Dyddiad geni, Cyfeiriad e-bost, Rhyw, Dewis iaith a hyfedredd, Ysgol, Canolfan Seren, Cymhwysedd am brydau ysgol am ddim a Lwfans Cynhaliaeth Addysg, Grŵp blwyddyn ysgol, Statws addysg uwch rhieni, Graddau TGAU, Dewisiadau pynciau Safon Uwch, Dewis brifysgol a dewis gwrs pwnc
- Data categorïau arbennig: ethnigrwydd, anabledd, gwybodaeth am unrhyw anghenion dysgu ychwanegol, cyflyrau meddygol, a yw dysgwr wedi bod mewn gofal
- Data arolygon presenoldeb mewn gweithgareddau, i gynnwys ymyriadau Seren y cofrestrwyd ar eu cyfer, y cymerwyd rhan ynddynt, ac a gwblhawyd
- Data cofrestru ar gyfer gweithgareddau, i gynnwys ffrydiau pwnc a gweithgareddau y mynegwyd diddordeb ynddynt o ran ymyriadau Academi Seren
- Data arolygon adborth a chanlyniadau ar gyfer ymyriadau Seren
Graddedigion Seren:
- Data personol: Enw cyntaf; Cyfenw; Rhagenwau a ffefrir; Ysgol/coleg a fynychwyd; TGAU; Safon Uwch; Blwyddyn graddio o Seren; Prifysgol a fynychir/fynychwyd; Pwnc gradd a astudir/astudiwyd; Blwyddyn graddio o’r brifysgol; Dewis iaith; Cyfeiriad e-bost; Canolfan Seren
Cydlynydd Canolfan neu Arweinydd Gweithredu:
- Data personol: Enw cyntaf; Cyfenw; Rhagenwau a ffefrir; Enw’r sefydliad proffesiynol; Rôl broffesiynol o fewn y sefydliad; Dewis iaith; Cyfeiriad e-bost; Canolfan Seren
Athro:
- Data personol: Enw cyntaf; Cyfenw; Rhagenwau a ffefrir; Enw’r sefydliad proffesiynol; Rôl broffesiynol o fewn y sefydliad; Dewis iaith; Cyfeiriad e-bost; Canolfan Seren
Mentor Seren:
- Data personol: Enw cyntaf; Cyfenw; Rhagenwau a ffefrir; Rhyw; Ysgol/coleg a fynychwyd; Safon Uwch; Blwyddyn graddio o Seren; Prifysgol a fynychir/fynychwyd; Pwnc gradd a astudir/astudiwyd; Dewis iaith; Addysg cyfrwng Cymraeg; Cyfeiriad e-bost; Canolfan Seren
Beth yw’r sail gyfreithlon dros ddefnyddio eich data?
Mae Llywodraeth Cymru yn dibynnu ar y sail gyfreithlon, fel y’i nodir yn Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2007 (fel y’u diwygiwyd), wrth dderbyn y data. Mae Llywodraeth Cymru yn dibynnu ar y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu data a dderbynnir o dan Erthygl 6(1)(e) o GDPR y DU; mae’r data yn cael ei brosesu yn unol â’n tasg gyhoeddus a’r awdurdod swyddogol a roddwyd inni i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. Caiff rhywfaint o’r data y mae Llywodraeth Cymru yn ei dderbyn ei nodi’n ‘ddata categori arbennig’ (yn yr achos hwn, ethnigrwydd ac anghenion dysgu ychwanegol). Ar gyfer hyn, mae Llywodraeth Cymru yn dibynnu ar Erthygl 9(2)(g) – mae’r data yn cael ei brosesu at ddibenion sydd o fudd sylweddol i’r cyhoedd, yn unol â’r gofynion rheoleiddio.
Beth fyddwn ni’n ei wneud â’ch data?
O fewn cylch gwaith Llywodraeth Cymru fel rheolydd y data, defnyddir y data a dderbynnir at y dibenion isod. Mae’r dibenion hyn yn angenrheidiol er mwyn galluogi Llywodraeth Cymru i gyflawni ei thasg gyhoeddus ac i arfer ei hawdurdod swyddogol.
Caiff eich gwybodaeth bersonol ei defnyddio ar gyfer:
- Cofrestru ar borth ar-lein Seren, Gofod Seren
- Rheoli’r rhaglen i hwyluso trefniadau ar gyfer ymyriadau/gweithgareddau Seren
- Ymchwil i werthuso ymgysylltiad, cyfranogiad ac effaith ymyriadau a rhaglen Seren yn ei chyfanrwydd.
Efallai y defnyddir y data personol a gesglir wrth gofrestru i fesur effaith y rhaglen ar grwpiau penodol o ddysgwyr. Os, ar unrhyw adeg, byddwch am inni roi’r gorau i rannu’r wybodaeth hon, cysylltwch â ni yn seren@llyw.cymru.
Dibenion cofrestru, nodi presenoldeb a rheoli’r rhaglen:
- Hwyluso a threfnu darpariaeth ddigonol ar gyfer pob gweithgaredd/ymyriad Seren
- Cadarnhau cyfranogiad gweithredol dysgwyr yn Academi Seren er mwyn prosesu Tystysgrifau Cyflawniad Academi Seren
- Caiff data presenoldeb a data cyfranogwyr a gesglir yn ystod gweithgareddau Seren ei gysylltu â data Gofod Seren er mwyn cadarnhau bod cyfranogwyr yn ddysgwyr Seren.
- Caiff data presenoldeb ei ddefnyddio at ddibenion cofrestru a chaniatâd i gymryd rhan mewn gweithgareddau, a chaiff data y gellir adnabod unigolion ar ei sail ei rannu â’r ysgol a/neu’r awdurdod lleol.
Dibenion ymchwil a dadansoddi ystadegol (mewn modd sy’n sicrhau na ellir adnabod plant a phobl ifanc unigol ar ei sail):
- Monitro perfformiad ac asesu ansawdd ein polisïau a’n gwasanaethau addysg fel y gellir eu gwella
- Helpu i fonitro cyllid a’i dargedu’n effeithiol
- At ddibenion ymchwil a dadansoddi ystadegol a fydd yn helpu i lywio polisi addysg ar gyfer pobl yng Nghymru, dylanwadu arno a’i wella
- Cysylltu â setiau data eraill, gan gynnwys setiau data anaddysgol, er mwyn llywio polisïau addysg a chymdeithasol ehangach
- Ar gyfer cwmnïau ymchwil sy’n cael eu comisiynu gan Lywodraeth Cymru i werthuso rhaglen Seren. Efallai y bydd hyn yn cynnwys cysylltu â dysgwyr ddoe a heddiw i gymryd rhan mewn arolygon, ond bydd gennych bob amser yr opsiwn i beidio â gwneud.
Dibenion cyhoeddi (mewn modd sy’n sicrhau na ellir adnabod plant a phobl ifanc unigol ar ei sail):
- At ddibenion cyhoeddi, sy’n cynnwys ystod o allbynnau ystadegol ar wefan Llywodraeth Cymru. Gellir gweld rhestr lawn o’r cyhoeddiadau ystadegol yn https://llyw.cymru/ystadegau-ac-ymchwil
- At ddibenion ymchwil sy’n ehangach nag addysg, bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio technegau i anonymeiddio’r data cyn dechrau’r ymchwil.
 phwy ydyn ni’n rhannu eich gwybodaeth?
Bydd gwybodaeth a gedwir gan Lywodraeth Cymru am blant a phobl ifanc yn cael ei rhannu, ar gais a lle mae pwrpas penodol, â sefydliadau, er enghraifft y rhai sy’n gysylltiedig ag addysg a hyfforddiant – gweler y Rheoliadau a wnaed o dan adran 537A o Ddeddf Addysg 1996. Nodir isod yr unigolion neu’r sefydliadau y bydd Llywodraeth Cymru yn rhannu eich gwybodaeth bersonol â nhw. Gweler Atodiad 2 am fanylion pwy yr ydym yn rhannu eich data â nhw, a pham.
- Yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol/coleg lle rydych chi neu yr oeddech chi wedi’ch cofrestru
- Yr ysgol/coleg lle rydych chi neu yr oeddech chi wedi’ch cofrestru
- Unrhyw unigolion sy’n gwneud gwaith ymchwil i gyflawniadau addysgol disgyblion ac sydd angen gwybodaeth unigol am ddisgyblion at y diben hwnnw
- Coladwyr gwybodaeth sydd, at ddibenion neu mewn cysylltiad â swyddogaethau Gweinidogion Cymru sy’n ymwneud ag addysg, yn gyfrifol am goladu neu wirio gwybodaeth sy’n ymwneud â disgyblion
Dim ond at ddiben penodol ac am gyfnod cyfyngedig y bydd Llywodraeth Cymru yn rhannu eich data â thrydydd partïon. Bydd gofyn i’r trydydd parti lofnodi cytundeb cyfrinachedd ynghylch eich data er mwyn datgan ei fod yn gweithredu gweithdrefnau boddhaol o ran diogelwch gwybodaeth, y bydd ond yn defnyddio eich gwybodaeth yn y ffyrdd a ragnodwyd, ac y bydd yn dinistrio ei gopïau o’ch data pan ddaw cyfnod y cytundeb i ben. Rhaid i unrhyw ddadansoddiad a gaiff ei lunio ddilyn rheolau datgelu Llywodraeth Cymru i sicrhau nad oes modd adnabod unigolion. At ddibenion ymchwil sy’n ehangach nag addysg, bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio technegau i anonymeiddio’r data cyn dechrau’r ymchwil.
Nodir isod y sefydliadau trydydd parti y bydd Llywodraeth Cymru yn rhannu eich gwybodaeth bersonol â nhw. Gweler Atodiad 2 am fanylion pwy yr ydym yn rhannu eich data â nhw, a pham.
- Prifysgol Aberystwyth
- Prifysgol Caerdydd
- Cazbah Ltd
- Equal Education Partners
- Prifysgol Caergrawnt
- Prifysgol Rhydychen
- Prifysgol Abertawe
Pa mor ddiogel yw eich data personol?
Bydd pob partner a chontractwr yn trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel, gan ddefnyddio cyfleusterau trosglwyddo data achrededig a gytunwyd.
Wrth gynnal arolygon, mae Equal Education Partners yn defnyddio rhaglen feddalwedd o’r enw Typeform.
Mae gan Cazbah ac Equal Education weithdrefnau i fynd i’r afael ag achosion lle amheuir bod rheolau diogelu data wedi’u torri. Os amheuir bod rheolau diogelu data wedi cael eu torri, bydd Cazbah ac Equal Education yn rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru, a fydd yn rhoi gwybod i chi ac i unrhyw reoleiddiwr perthnasol, lle mae’n ofynnol inni wneud hynny yn ôl y gyfraith.
Ble mae eich data yn cael ei storio?
Bydd eich data personol yn cael ei gadw’n ddiogel o fewn systemau gwybodaeth a gymeradwywyd.
Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data personol?
Byddwn yn cadw data dysgwyr yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru am o leiaf 12 mlynedd o ddiwedd cyfnod cyllido presennol 2025. Os nad ydych bellach yn dymuno bod yn rhan o raglen Seren a’i graddedigion, cysylltwch â Thîm Seren i ddileu eich data.
Hawliau’r unigolyn
O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych fel rhan o’r rhaglen hon:
- Gweld copi o’ch data eich hun
- Gofyn inni gywiro unrhyw ddata anghywir
- Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan amgylchiadau penodol)
- Gofyn inni ddileu eich data (o dan amgylchiadau penodol)
- Cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawliau canlynol:
- cael gwybod am y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn ei gadw amdanoch, a’i weld
- gofyn inni gywiro unrhyw ddata anghywir
- gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan amgylchiadau penodol)
- gofyn inni ddileu eich data (o dan amgylchiadau penodol)
- cludadwyedd y data (o dan amgylchiadau penodol)
- cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
I gael mwy o fanylion am y wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac at ba ddiben, neu os hoffech arfer eich hawl o dan GDPR y DU, gweler y manylion cyswllt isod:
Y Tîm Casgliadau Data:
Y Gyfarwyddiaeth Addysg Drydyddol
Llywodraeth Cymru – Tîm Academi Seren
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: seren@llyw.cymru
Y Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru
I gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, gweler y manylion isod:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 029 2067 8400 (llinell gymorth Cymru) / 0303 123 1113 (llinell gymorth y DU)
Gwefan: https://cy.ico.org.uk/
Atodiad 1 – Eitemau Data am Ddysgwyr a Gesglir
Enw’r Eitem Ddata | Gofod Seren | Cofrestru ar gyfer Gweithgaredd | Presenoldeb | Arolygon Dechrau a Diwedd Blwyddyn | Arolygon Canlyniadau Gweithgaredd | Arolygon Adborth ar Weithgaredd |
Enw cyntaf | x | x | x | x | x | x |
Cyfenw | x | x | x | x | x | x |
Dyddiad geni | x | x | x | x | x | x |
Cod post | x | |||||
Hunaniaeth o ran rhywedd | x | |||||
Rhagenwau a ffefrir | x | |||||
Ethnigrwydd* | x | |||||
Ysgol uwchradd/coleg a fynychir/fynychwyd | x | x | x | x | x | |
Blwyddyn ysgol gyfredol | x | x | ||||
Canolfan/Rhanbarth Seren | x | x | x | x | x | |
Graddau TGAU a gafwyd | x | |||||
Pynciau AS/Safon Uwch | x | |||||
Dewisiadau prifysgol a ffefrir | x | |||||
Dewisiadau pwnc a ffefrir | x | |||||
Iaith gohebiaeth/darpariaeth a ffefrir | x | x | ||||
Addysg cyfrwng Cymraeg | x | |||||
Cymhwysedd am brydau ysgol am ddim | x | |||||
Cymhwysedd am Lwfans Cynhaliaeth Addysg | x | |||||
ADY, anabledd neu gyflwr meddygol** | x | |||||
Mewn gofal* | x | |||||
Cyfrifoldebau gofalu* | x | |||||
Statws ffoadur neu geisiwr lloches | x | |||||
Statws addysg uwch rhieni | x | |||||
Cyfeiriad/Cyfeiriadau e-bost | x | x | x | |||
Gweithgaredd/ymyriad Seren | x | x | x | |||
Adborth graddfa Likert ansoddol ar ddatganiadau sy’n gysylltiedig â chynlluniau addysgol i’r dyfodol | x | x | x | |||
Adborth graddfa Likert ansoddol ar ddatganiadau sy’n gysylltiedig â dealltwriaeth o lwybrau addysgol a gwneud dewisiadau | x | x | x | |||
Adborth graddfa Likert ansoddol ar ddatganiadau sy’n gysylltiedig â hyder wrth symud ymlaen i addysg uwch | x | x | x | |||
Adborth graddfa Likert ansoddol ar ddatganiadau sy’n gysylltiedig â sgiliau academaidd | x | x | x | |||
Adborth graddfa Likert ar fwynhad mewn elfen o weithgaredd Seren | x | x | ||||
Adborth ar ansawdd cyflwyno gweithgaredd a’i pherthnasedd | x | x | x | |||
Cyswllt Gyrfa Cymru/cynghorydd gyrfaoedd | x |
* Rydym yn casglu’r eitem ddata hon at ddibenion ymchwil a dadansoddi ystadegol (mewn modd sy’n sicrhau na ellir adnabod plant a phobl ifanc unigol ar ei sail) i fonitro mynediad at ein gwasanaethau addysg, a lefel y cyfranogiad, fel y gellir eu gwella ar gyfer pob dysgwr.
** Rydym yn casglu’r eitem ddata hon at ddibenion rheoli’r rhaglen er mwyn hwyluso trefniadau priodol ar gyfer ymyriadau/gweithgareddau Seren. Bydd angen mynediad at y data hwn ar reolwr gweithredu a thîm gweithredu Seren er mwyn helpu i ddarparu ymyriadau yn effeithiol ar gyfer pob dysgwr. Rydym hefyd yn casglu’r eitem ddata hon at ddibenion ymchwil a dadansoddi ystadegol (mewn modd sy’n sicrhau na ellir adnabod plant a phobl ifanc unigol ar ei sail) i fonitro mynediad at ein gwasanaethau addysg, a lefel y cyfranogiad, fel y gellir eu gwella ar gyfer pob dysgwr.
Atodiad 2 – Rhannu eich data â sefydliadau eraill
Sefydliad | Diben |
Awdurdodau lleol | Mae data lefel disgyblion yn cael ei ddadansoddi a’i ddefnyddio gan awdurdodau lleol. |
Ysgolion/Colegau | Mae data lefel disgyblion yn cael ei ddadansoddi a’i ddefnyddio gan yr ysgolion lle mae dysgwyr wedi cofrestru. Y nod yw cefnogi’r gwaith o gyflwyno’r rhaglen a chyfranogiad dysgwyr yng ngweithgareddau Seren. |
Sefydliadau sy’n gweithio o dan gontract i Lywodraeth Cymru | Efallai y byddwn yn rhannu eich data â sefydliadau sy’n gweithio o dan gontract gyda ni lle mae nod y gwaith hwnnw yn ein cefnogi i ddeall a gwella addysg a lles myfyrwyr, ac i hwyluso’r gwaith o ddarparu a chyflwyno gweithgareddau Seren yn briodol ac yn effeithiol ar gyfer pob dysgwr. |
Sefydliadau ymchwil | Efallai y byddwn yn rhannu eich data ag unrhyw unigolion sy’n gwneud gwaith ymchwil i gyflawniadau addysgol disgyblion ac sydd angen gwybodaeth am ddisgyblion unigol at y diben hwnnw. |
Sefydliadau addysg uwch | Efallai y byddwn yn rhannu eich data â sefydliadau addysg uwch lle mae nod y gwaith hwnnw yn ein cefnogi i ddarparu ymyriadau preswyl Seren penodol ac ymweliadau â phrifysgolion fel rhan o’n rhaglen. |