Llongyfarchiadau! Croeso i Academi Seren! 🌟

Academi Seren 🌟

Tanio dy chwilfryddedd a’th gymhelliant ar gyfer dy ddysgu, dy rymuso i wneud dewisiadau uchelgeisiol, gwybodus am dy lwybr addysgol yn y dyfodol, a datblygu dy allu i gyrraedd dy botensial a llwyddo mewn prifysgolion blaenllaw.
Ymuna ag Academi Seren gan gofrestru ar gofodseren.cymru
Cwblha dy broffil Gofod Seren
Darganfydda beth sydd ar gael - grwpiau, adnoddau, digwyddiadau, cyfleoedd a mwy!

Digwyddiadau 🗓️

Galli ddod o hyd i’r holl ddigwyddiadau Seren ar dy gyfer wedi’u rhestru yn yr adran Digwyddiadau a Chyfleoedd.

Cadw lygad ar dy ebost 👀

Unwaith y byddi wedi cofrestru ar Gofod Seren, byddi’n derbyn debyst rheolaidd am gyfleoedd i ti. Gwna’n siŵr dy fod yn cofrestru gydag ebost rwyt yn ei wirio’n rheolaidd!

Heriau academaidd gor-gwricwlaidd 💪

Manteisia ar ein heriau academaidd gor-gwricwlaidd er mwyn cael y mwyaf o dy lwybr drwy Seren.

Cefnogaeth ceisiadau 🎓

Pan fyddi’n paratoi ar gyfer y cam nesaf yn dy lwybr academaidd, byddwn yno i’th arwain gyda digwyddiadau ac adnoddau defnyddiol!

Yn dy ardal 📍

Galli ddarganfod mwy am ddigwyddiadau wyneb-yn-wyneb sy’n digwydd yn lleol i ti.

Cyrsiau preswyl 🧳

Dysga fwy am gyrsiau preswyl trawsnewidiol Seren a sut i ymgeisio am le.