Llongyfarchiadau! Croeso i Academi Seren!

Beth yw Academi Seren?

Menter gan Llywodraeth Cymru yw Academi Seren i helpu dysgwyr mwyaf galluog Cymru i gyflawni eu potensial academaidd llawn a chefnogi eu llwybr addysg i brifysgolion blaenllaw yn y DU, a thramor – dysgwyr fel TI.
Ymuna ag Academi Seren gan gofrestru ar gofodseren.cymru
Cwblha dy broffil Gofod Seren
Darganfydda beth sydd ar gael - grwpiau, adnoddau, digwyddiadau, cyfleoedd a mwy!

Creu dy broffil

Llenwa fy fanylion i greu dy broffil Gofod Seren. Bydd yr wybodaeth yr wyt ti’n ei gynnig wrth gofrestru yn helpu teilwra dy brofiad Gofod Seren.

Ymuna â grwpiau perthnasol i ti

Ymuna â grwpiau yn seiliedig ar dy ardal lleol, dy flwyddyn ysgol a diddordebau academaidd fel y galli ddysgu am yr holl gyfleoedd all fod yn berthnasol i dy lwybr academaidd.

Mynediad i adnoddau defnyddiol

Archwilia banc adnoddau Gofod Seren am baratoi i fynd i’r brifysgol, lles a chyllid, yn ogystal â dosbarthiadau meistr ar-alw o ddigwyddiadau Academi Seren.

Cofrestra ar gyfer digwyddiadau cyffrous ac ymgeisia i gyfleoedd gwerthfawr

O fewn calendr digwyddiadau a chyfleoedd Gofod Seren galli gofrestru ar gyfer digwyddiadau sy’n digwydd yn dy ardal ac ymhellach draw, megis dosbarthiadau meistr ac ysgolion haf.

Dysga am ein rhaglen o ysgolion haf

Darganfydda fwy am raglen gyffrous ysgolion haf Academi Seren, wedi ei datblygu mewn cydweithrediad â phrifysgolion blaenllaw yn y DU a thramor.

Lawrlwytha'r ap

Lawrlwytha ap Gofod Seren er mwyn gweld popeth sydd gan Academi Seren i’w gynnig ar flaenau dy fysedd. Hawdd!